Ebill 2ail, 2008
Annwyl Gefnogwyr,
Dyfodol Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor; ‘Y Diweddaraf’
Yr ydym yn ddiolchgar iawn iawn i’r holl rai ohonoch sydd wedi ysgrifennu i Gyngor Gwynedd, i Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad ac i Is-Ganghellor Prifysgol Bangor; i’r rhai hynny sydd wedi arwyddo deisebau ac wedi annog eraill i’w harwyddo; i’r rhai sydd wedi lledaenu y newyddion am eu pryderon dros y wê. Rydym yn gwybod eu bod wedi creu argraff ar eu derbynyddion, ac yn gobeithio wedi dychryn o ddarganfod y lefel o gefnogaeth a phryder sydd wedi ei leisio.
Bydd llawer ohonnoch wedi derbyn ymateb gan Wynedd ac o’r Brifysgol. Mae’r ddau wedi crybwyll ffurfio Pwyllgor Deiran (Tripartite), gyda chynrychiolaeth o Gyngor Gwynedd, y Brifysgol a Chyfeillion yr Amgueddfa. Cyfarfu y Pwyllgor hwn ar Fawrth 12fed ac rydym wedi rhoi adroddiad ar y cyfarfod ar ein gwefan; www.achubwchamgueddfagwynedd.org.uk.
Y prif ganlyniad oedd i Gyngor Gwynedd ddatgan y byddent yn gohirio eu torriadau nes y flwyddyn ariannol nesaf fel gall yr Amgueddfa barhau yn agored nes Mawrth 2009, yn hytrach na chau ym mis Medi 2008. Ailadroddiasant eu cynnig o Ionawr 28ain i barhau i redeg yr Amgueddfa ac Oriel petai y Brifysgol yn rhoi cytundeb cadarn i ddarparu 50% o’r costau.
Yr oeddem wedi ein calanogi wrth agwedd y Cyngor Sir ond mae’n rhaid dweud ein bod yn siomedig yn amharodrwydd y Brifysgol i wneud unrhyw symudiad. Roedd yr Athro Merfyn Jones, yr Is-Ganghellor wedi dweud, mewn ymateb i’w gwestiynwyr “Yn amlwg nid oes ateb syml, ond mi wnawn weithio gyda Gwynedd a Chyfeillion yr Amgueddfa a’r Oriel i geisio ffyrdd eraill, fyddai yn ogystal yn chwilio am ffynhonellau ariannu newydd, yn cynnwys y posibilrwydd o arddangos deunydd yn y Ganolfan Gelfyddydau newydd ac yn y Brifysgol ei hun”. Ond ddywedodd Ms Meri Huws, Dirpwy Is-Ganghellor, cynrychiolydd y Brifysgol ar y Pwyllgor Deiran, “nad oedd gan y Brifysgol unrhyw gynlluniau i redeg amgueddfa”; y byddai gan y Ganolfan Gelfyddydau newydd ond “gofod arddangos bychan” ac “na fyddai unrhyw arddangosfeydd wedi eu curadu”. Ni gafodd ein cynnig a fyddai’n bosibl i ailgysidro y brîff ar gyfer y Ganolfan newydd eyn sgil y datblygiadau newydd dderbyniad da.
‘Roeddem yn derbyn yr argraff nad oedd y Brifysgol wedi gwneud unrhyw gynlluniau o ddifrif yn y pum mis ers iddynt ddod i wybod am yr argyfwng yn yr Amgueddfa ac mae’n ymddangos nad yw y rheini yn y top wedi trafod y peth - hyd yn oed ymysg ei gilydd. Yr ydym felly yn eich argymell i ysgrifennu i’r Brifysgol, gan ddweud eich bod yn deall fod Gwynedd wedi gwneud cynnig a symudiad yn y cyfeiriad cywir ac erfyn arnynt i wneud rhywfaint o symudiad eu hunain. Yn nhermau eu cyllideb gyfan, mae’r cyfanswm sydd ei angen i ddychwelyd i’r status quo, sef yr ateb symlaf ac rhataf – yn fychan.
Yn gywir,
Frances Lynch Llewellyn
Ysgrifennydd Cyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor
